Diolch Sam…
Am hyrwyddo eich digwyddiad mor effeithlon!

Sut i hyrwyddo eich digwyddiad

Mae gennych syniad da am ddigwyddiad. Rhywbeth a fydd yn dal dychymyg y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw. Yr unig beth sydd ar ôl i’w wneud yw rhoi gwybod i bawb ei fod yn digwydd. Mae nifer o bobl sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid yn dweud wrthym mai hwn yw’r maes sydd angen y cymorth a’r cyngor mwyaf. Felly, i’ch helpu i hyrwyddo eich digwyddiad yn llwyddiannus, rydym wedi llunio ‘Deg Awgrym Gorau’ yn ymwneud â phob agwedd o hyrwyddo digwyddiad o ddelio gyda’r cyfryngau lleol i ysgrifennu copi perswadiol clir. Hefyd, rydym wedi cynnwys awgrymiadau ar sut i drefnu digwyddiadau a sut i godi arian i’ch helpu i wneud eich digwyddiadau yn y dyfodol hyd yn oed yn well. Gobeithio y byddwch chi’n gweld ein cyfres ‘Deg Awgrym Gorau’ yn arweiniad cyfeirio defnyddiol iawn i chi a’ch cydweithwyr. Lawr lwythwch y PDFs drwy glicio ar y teitlau perthnasol isod.

Deg Awgrym Gorau i gael Sylw ar y Cyfryngau

Deg Awgrym Gorau ar gyfer trefnu digwyddiad

Deg Awgrym Gorau ar gyfer ysgrifennu datganiad i’r wasg

Deg Awgrym Gorau ar gyfer Siarad Cyhoeddus

Deg Awgrym Gorau ar gyfer dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau

Deg Awgrym Gorau ar gyfer codi arian

Deg Awgrym Gorau ar gyfer Ysgrifennu Clir

Gwerthuswch eich digwyddiad: mae ein harian yn dibynnu ar hyn

Mewn sawl ffordd, dyma’r rhan bwysicaf o’n gwefan. Mae popeth rydyn ni’n ei wneud, pob digwyddiad rydyn ni’n ei gefnogi, pob grant rydyn ni’n ei roi, pob ceiniog rydyn ni’n ei gwario ar hyrwyddo gwaith ieuenctid yng Nghymru, yn bosibl oherwydd arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ond i sicrhau arian pellach yn y dyfodol, rhaid i ni brofi bod ein hymgyrchoedd yn gweithio a’n bod yn buddsoddi arian cyhoeddus yn ddoeth ac yn effeithlon. A dyna lle rydych chi’n dod yn rhan o hyn i gyd, oherwydd ni allwn roi tystiolaeth o’r fath heb eich help chi.

Rydyn ni angen i chi roi gwybod i ni am eich gweithgareddau a’ch prosiectau. Rhaid i ni gael eich gwerthusiad! Felly, a fyddech chi cystal â threulio amser yn lawr lwytho’r ffurflen werthuso a rhoi’r wybodaeth hanfodol rydyn ni ei hangen i ni. Ni allwn bwysleisio digon pa mor hanfodol yw hyn. Mae ein hymgyrchoedd yn y dyfodol yn dibynnu ar hyn!

Lawr lwythwch y Ffurflen Werthuso