Diolch Sam…
Am wneud y rhan fwyaf o’n deunyddiau marchnata!

Rydym wedi darparu logos yr Wythnos Gwaith Ieuenctid i chi eu lawrlwytho a’u defnyddio i hysbysebu eich digwyddiad ac i’ch helpu i’w farchnata’n effeithiol.

Hysbysebion baner ar y wefan

Mae’r rhain yn hysbysebion baner ar-lein y gallwch eu dangos ar wefannau eraill sy’n targedu pobl ifainc. Mae un yn dangos neges generig am ddigwyddiadau gwaith ieuenctid, mae’r llall yn rhoi gwybod i fwy o bobl am y cyfleoedd i weithio fel Gweithiwr Ieuenctid yng Nghymru. Pan fyddwch yn clicio ar fersiynau Flash y naill neu’r llall cewch eich cymryd yn syth at dudalen hafan Diolch Sam. Os ydych yn defnyddio fersiynau GIF wedi’u hanimeiddio, rhowch ddolen o’r GIF i’n tudalen hafan pan rowch y GIF ar eich gwefan os gwelwch yn dda.Felly helpwch ni i hybu gwaith ieuenctid yng Nghymru drwy eu rhoi ar eich gwefan,

Lawrlwytho’r baneri Generig

DCELLSYWWGeneric728x90v1

Mae’r baner Generig ar gael mewn Flash ac mewn fformat GIF wedi’i animeiddio, yn y meintiau safonol: Skyscraper (120x600px), Skyscraper wide (160x600px), Square pop-up (300x300px) a Leaderboard (728x90px).

Poster hir cyffredinol

Rydym hefyd wedi cynhyrchu poster i chi. Maen nhw’n dair tudalen A4 o hyd felly maen nhw yn cael effaith pan fyddan nhw ar wal neu hysbysfwrdd. Gallwch osod sawl poster ochr yn ochr i greu llinell hir o ddelweddau llachar ar un ochr i ystafell neu goridor. Mae’r PDFs wedi’u creu ar gyfer maint A4. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw uno’r tri A4 gyda’i gilydd i greu eich poster.

YouthWorkLongPoster2011sample

Pum poster hir wedi’u haddasu i ddewis ohonyn nhw

Mae’r rhain yr un fath â’r posteri hir cyffredinol heblaw eich bod yn gallu eu haddasu i gynnwys manylion penodol am eich digwyddiad. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw teipio’r wybodaeth yn y mannau gwyn ar y posteri. Yna arbedwch nhw a’u hargraffu. Mae mor hawdd â hynny!

YouthWorkLongPosters2011blanksforwebsample

Dau poster cyffredinol A3 i ddewis ohonyn nhw

Mae’r rhain hyd yn oed yn symlach. Maen nhw’n bosteri A3 y gellir eu hargraffu ar A3 neu A4 os mai dim ond argraffydd A4 sydd gennych. Bydd y PDF yn awtomatig yn rhedeg fel A3 neu A4 yn dibynnu ar faint y papur fyddwch chi’n ei ddefnyddio.

Tri poster A3 y gellir eu haddasu i ddewis ohonyn nhw

Mae’r rhain yr un fath â’r posteri cyffredinol A3 uchod heblaw eich bod yn gallu eu haddasu i gynnwys manylion penodol am eich digwyddiad. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw teipio’r wybodaeth yn y mannau gwyn ar y posteri. Yna arbedwch nhw a’u hargraffu. Mae mor hawdd â hynny