Yn dilyn llwyddiant Wythnos Gwaith Ieuenctid y llynedd, eleni eto, byddwn yn darparu grantiau ar gyfer Digwyddiadau Ychwanegol Wythnos Gwaith Ieuenctid. Caiff 20 o brosiectau eu dewis gan banel o ddyfarnwyr annibynnol a rhoddir grant o hyd at £500 iddynt i’w cynorthwyo gyda thalu costau sy’n gysylltiedig â sefydlu a hybu digwyddiadau arbennig sy’n cael eu trefnu’n ychwanegol at ddigwyddiadau sy’n arfer cael eu trefnu.
Rydym eisiau i fudiadau canfod ffyrdd arloesol i gysylltu â phobl ifanc ar draws Cymru a’u cael i fod yn rhan o weithgareddau Wythnos Gwaith Ieuenctid. Rydym eisiau i chi, mewn cysylltiad â phobl ifanc, datblygu rhywbeth sy’n newydd i chi, gyda’r bwriad o gyflwyno pobl newydd i’r gwasanaethau yr ydych yn eu darparu ac i gymell gymaint ag sy’n bosibl o’r cyhoedd yng Nghymru i ddeall y rhan hanfodol mae gwaith ieuenctid yn chwarae yn natblygiad pobl ifanc.
Dylai’r cynlluniau cael eu datblygu allan o anghenion a diddordebau pobl ifanc. Dylai’r prosiectau a ddylunnir bod yn ffordd ddeniadol ac effeithiol i annog pobl ifanc i ymgymryd â’u cyfrifoldebau ac i fod yn ddinasyddion sy’n cymryd rhan, yn ogystal â datblygu sgiliau newydd fydd yn parhau i fod yn ddefnyddiol iddynt trwy gydol eu bywydau.
Cofiwch: mae’r grant ar gyfer digwyddiad sy’n ychwanegol at yr hyn yr ydych eisoes yn ei gynllunio!
Mae nifer cyfyngedig o grantiau o hyd at £500 ar gael. Os ydych yn llwyddiannus, bydd eich grant yn cael ei dalu mewn dwy ran - 70% ymlaen llaw a 30% ar ôl cwblhau adroddiad gwerthuso terfynol; bydd ffurflen gwerthuso yn cael ei baratoi. Mae’n hanfodol bod y digwyddiadau yn cael eu gwerthuso, oherwydd bydd y cyllid ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid yn y dyfodol yn dibynnu ar yr adborth caiff Llywodraeth Cynulliad Cymru gennych.
Dalier sylw – Ni chaiff y cynllun cyllido:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw grŵp neu fudiad Gwasanaeth Ieuenctid. Mae mudiadau Gwasanaethau Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc yn y dulliau a ddisgrifir yn Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac yn Natganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru. Yn ddelfrydol, dylech fod yn gweithio mewn partneriaeth. Hoffem gefnogi grwpiau a all fod yn gweithio gydag amrediad eang o asiantaethau sy’n cynnwys pobl ifanc fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau.
Fe dybier bydd nifer fawr o ymgeiswyr; felly caiff y ffactorau canlynol eu hystyried wrth asesu ceisiadau:
Lawrlwythwch y ffurflen gais am grant Digwyddiadau Ychwanegol a’i dychwelyd erbyn dydd Llun Mehefin 1 2009 i:
David Heath, Cangen Strategaeth Gwaith Ieuenctid,
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
Ffôn: 029 20821552
E-bost: YWSMailbox@wales.gsi.gov.uk
Dalier sylw: Os byddwch yn llwyddiannus, cewch wybod trwy lythyr erbyn dydd Llun, 13 Gorffennaf 2009.
Bydd llwyddiant Wythnos Gwaith Ieuenctid yn dibynnu ar Lywodraeth Cynulliad Cymru yn derbyn eich adborth ar y ffurflenni gwerthuso.
Bydd y ffurflen gwerthuso yn gofyn am wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd; pwy gymerodd rhan; gwersi a ddysgwyd; canlyniadau i bobl ifanc ac eraill oedd yn cymryd rhan; ac, adborth gan bawb oedd yn gysylltiedig. Rydym angen i chi gwblhau a dychwelyd y rhain; rydym angen eich help i ddiogelu dyfodol Wythnos Gwaith Ieuenctid!
Rydym wedi ceisio creu dolenni sy'n berthnasol ac yn addas i ddefnyddwyr ein gwefan, ond ni allwn fod yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r safleoedd hyn.