Diolch Sam…
am roi llais cryfach i bobl ifanc!

Mae cymaint o bethau y mae pobl ifanc yn teimlo’n angerddol amdanyn nhw. Fel atal bwlio mewn ysgolion. Achub ein planet. Gwella cyfleusterau i bobl ifanc yn eu hardal. Y gamp yw defnyddio eu hegni a’u brwdfrydedd. A dyma sut i wneud hynny. Mae barn pobl ifanc yn bwysig. Mae ganddyn nhw lais - a gallan nhw wneud gwahaniaeth. Dylai’r Gwasanaeth Ieuenctid, oherwydd ei natur, gynnwys pobl ifanc wrth reoli a chyflawni ei waith. Hefyd, ledled Cymru, mae cyfle arall i bobl ifanc ddod at ei gilydd i gymryd rhan weithgar mewn Fforymau Ieuenctid. Mae bod yn aelod o’u Fforwm Ieuenctid lleol yn wych. Nid yn unig maen nhw’n cael cyfle i fynegi barn wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc, maen nhw hefyd yn cael amser da. Maen nhw’n cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau diddorol. Felly, ewch yno, darganfyddwch fwy. Mae mudiad o’r enw Funky Dragon, sy’n gyfrifol am helpu i sefydlu a chefnogi Fforymau Ieuenctid ledled Cymru. Edrychwch ar eu gwefan a gweld sut gall y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw, gyfranogi!