Credwn fod ein gweithwyr ieuenctid mwyaf talentog ac ymroddgar yng Nghymru’n haeddu cael eu gwobrwyo am eu gwaith.
Wedi'r cyfan, mae miloedd o arwyr heb eu cydnabod - ein ‘Sams’ ni ein hunain – sy'n gweithio'n ddyfal ledled Cymru i gefnogi a helpu pobl ifanc. Mae enghreifftiau di-rif o bobl ifainc sydd wedi newid eu bywydau am byth, diolch i ddylanwad ac arweiniad eu gweithwyr ieuenctid.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2012, mewn cydweithrediad â'r awdurdod lleol a'r Gwasanaeth Ieuenctid gwirfoddol a Llywodraeth Cymru, yn gyfle i weithwyr ieuenctid, prosiectau ieuenctid a phobl ifainc sy’n cymryd rhan mewn gwaith ieuenctid dderbyn cydnabyddiaeth gan y cymunedau maent yn gweithio drostynt.
Felly, mae'n bryd dweud diolch. Mae'n bryd i ni ddangos ein gwerthfawrogiad. Mae'n bryd cydnabod gwaith gwych cydweithwyr yn y sector.
Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2012 - Dydd Iau 23ain Chwefror 2012
Dyddiad cau enwebiadau : Ionawr 6ed 2012
Cwblhewch y ffurflenni nawr!



Rydym wedi ceisio creu dolenni sy'n berthnasol ac yn addas i ddefnyddwyr ein gwefan, ond ni allwn fod yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r safleoedd hyn.