Beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid?

Darganfyddwch fwy am glybiau gwaith ieuenctid yn eich ardal chi

Cymerwch ran a gwneud gwahaniaeth

A oes gennych ddiddordeb mewn gwaith ieuenctid?

Gweithgareddau newydd ar gyfer eich grŵp ieuenctid

Rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau a’ch awgrymiadau

Diolch Sam…
Mae’n bwysig bod gennym lais!

A oes gennych chi rai pethau yr ydych chi’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw? Fel rhoi terfyn ar fwlio mewn ysgolion? Achub ein planed? Gwella cyfleusterau i bobl ifanc yn eich ardal? Wel, mae eich barn yn cyfrif – mae gennych lais – a gallwch wneud gwahaniaeth. Ledled Cymru, mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd i gymryd rhan weithgar mewn Fforymau Ieuenctid.

Mae bod yn aelod o’ch Fforwm Ieuenctid lleol yn wych. Nid yn unig rydych chi’n cael y cyfle i fod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud sy’n effeithio ar bobl ifanc, byddwch chi hefyd yn cael amser da. Byddwch chi’n cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau hynod ddiddorol.

Felly, ewch yno, darganfyddwch fwy. Mae mudiad gwych o’r enw Funky Dragon sy’n gyfrifol am helpu i sefydlu a chefnogi Fforymau Ieuenctid ledled Cymru. Edrychwch ar eu gwefan ac ewch i gymryd rhan!