Wythnos Gwaith Ieuenctid 1–7 Tachwedd
Digwyddiadau gwych ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn digwydd yn flynyddol ac mae bob amser yn boblogaidd gyda phawb sy’n cymryd rhan. Ond eleni, mae’n mynd i fod yn fwy a gwell nag erioed o’r blaen gyda channoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru. Felly, gwnewch yn sicr eich bod yn rhan o’r dathliad mwyaf o Waith Ieuenctid mae Cymru erioed wedi’i weld. Os ydych chi’n berson ifanc, 11-25 oed, yna cliciwch ar y ddolen llun Pobl ifanc i ddarganfod beth sy’n digwydd. Os ydych chi’n cymryd rhan mewn Gwaith Ieuenctid - naill ai’n broffesiynol neu fel gwirfoddolwr - yna cliciwch ar y ddolen llun Gweithiwr Ieuenctid a byddwch chi’n gweld gwefan yn llawn o wybodaeth, cymorth a syniadau da i’ch helpu i gyflawni gwell gweithgareddau a phrosiectau ar gyfer y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw.

